Ymgyrchoedd Ebost

Cartref > Ymgyrchoedd Ebost

Gyda Senedd newydd sbon, a mwy o Aelodau nag erioed o’r blaen, mae cyfle i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y Senedd, sydd wedi bod yn isel iawn ar hyd y blynyddoedd. Mynd yn erbyn y llif mewn môr o Saesneg fu hanes y rhai oedd yn defnyddio’r Gymraeg yn Seneddau’r gorffennol. Nawr yw’r amser i droi’r llanw o blaid y Gymraeg ar weinyddiaeth y Senedd.

Rydyn ni’n galw am ddod â Chomisiwn y Senedd, y Bwrdd Taliadau Seneddol a’r Aelodau eu hunain o dan ddyletswyddau safonau’r Gymraeg ar fyrder fel bod fframwaith cyfreithiol cadarn yn ei le.

Yn ogystal, rydyn ni'n disgwyl i bob Aelod unigol, a'r Aelodau fel corff, ddangos arweiniad i wireddu'r weledigaeth o wneud y Gymraeg yn briod iaith i'r Senedd. Mae angen i Aelodau’r Seithfed Senedd fachu ar y cyfle i feithrin arferion newydd o ran defnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn nhrafodion y Senedd, wrth gyflogi staff ac wrth wasanaethu etholwyr.

Yr ydym ni eisoes wedi ysgrifennu at yr holl Aelodau o’r Senedd, ac wedi cofnodi’r ymatebion a dderbyniwyd yma. 

Nid pawb sydd wedi ymateb! Gofynnwn felly i chi ein helpu trwy anfon y neges isod at y chwech Aelod o’r Senedd sy’n eich cynrychioli (bydd y neges yn mynd yn awtomatig at y 6 AoS a byddwch chithau yn derbyn copi ohoni). Mae’r neges yn eu gwahodd i ddatgan eu gallu ieithyddol personol ar hyn o bryd, a’u hymrwymiadau i ddefnyddio a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg fel cynrychiolwyr etholedig. Rydym yn bwriadu i’r arolwg fod yn gofnod byw, a’n galluogi i ddal Aelodau yn atebol yn ystod y tymor hwn.

Noder y bydd eich cyfeiriad post ac ebost yn cael eu cynnwys yn y neges i'r Aelodau o'r Senedd.

Cynnwys y Neges

Annwyl Aelod o’r Senedd,

Rwyf yn cysylltu fel un o’ch etholwyr i ofyn i chi ymateb i arolwg diweddar Cymdeithas yr Iaith a chofnodi eich ymrwymiad i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn y Senedd.

Fel etholwr, rwyf yn disgwyl i chi fel Aelod unigol, a’r Aelodau fel corff, ddangos arweiniad i wireddu'r weledigaeth o wneud y Gymraeg yn briod iaith i'r Senedd. Mae angen i Aelodau’r Seithfed Senedd fachu ar y cyfle i feithrin arferion newydd o ran defnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn nhrafodion y Senedd, wrth gyflogi staff ac wrth wasanaethu etholwyr.

Os nad ydych chi wedi gwneud yn barod felly, gofynnaf i chi gofnodi’ch hymrwymiad yma ac ymateb i’r neges hon yn cadarnhau eich bod wedi gwneud.

Diolch.

Yn gywir,