Sefydlu Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg yn y Senedd
2026-09-16
Cartref > Newyddion > Sefydlu Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg yn y Senedd
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o Grŵp Trawsbleidiol newydd dros y Gymraeg yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, 15 Medi).
Bwriad y grŵp yw darparu gofod i drafod a phontio rhwng mudiadau llawr gwlad a’r ddeddfwrfa, sydd wedi ehangu’n ddiweddar i gynnwys 36 aelod ychwanegol. Roedd grŵp tebyg yn bodoli yn ystod y bedwaredd a’r bumed Senedd, rhwng 2012 a 2021.
Yng nghyfarfod cyntaf y grŵp newydd, cafodd Mair Rowlands, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Fangor Conwy Môn, ei hethol yn Gadeirydd ac fe etholwyd Cymdeithas yr Iaith i ddarparu ei ysgrifenyddiaeth.
Ymhlith y mudiadau eraill sy’n rhan o’r Grŵp mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dyfodol i’r Iaith, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, UCAC ac undebau myfyrwyr Cymraeg y prifysgolion.
Pwrpas y Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg fel y cytunwyd yn ei gyfarfod cyntaf yw:
-
trafod a thynnu sylw at faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn y Senedd a’r tu hwnt iddi
-
cydweithio i sicrhau dyfodol i’r iaith a hawl pawb i’w dysgu, i’w defnyddio ac i fyw eu bywydau drwyddi ym mhob cymuned yng Nghymru
-
cynyddu ymwybyddiaeth o unrhyw faterion sy’n effeithio ar y Gymraeg
Roedd yr ASau Niamh Salkeld, Huw Thomas, Rebeca Phillips, Lis McLean a Paul Davies hefyd yn bresennol ar gyfer cyfarfod cyntaf y grŵp.
Meddai Mair Rowlands AS:
“Rwy’n falch iawn o gael fy ethol yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg. Mae’n galonogol iawn gweld cymaint o ddiddordeb a pharodrwydd i gydweithio’n drawsbleidiol i gryfhau defnydd a statws y Gymraeg yn y Senedd a’r tu hwnt iddi wrth ailsefydlu’r Grŵp yn y Seithfed Senedd.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o addewidion fydd yn gweddnewid tueddiadau’r degawdau diwethaf, megis ehangu Safonau’r Gymraeg, gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gosod targed newydd o 50% o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Rwyf am i’r Grŵp chwarae rôl adeiladol wrth sicrhau cyflawniad yr ymrwymiadau hyn.
“Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’r holl aelodau a’r mudiadau sy’n rhan o’r Grŵp yn ystod y tymor hwn er mwyn sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith sy’n ffynnu ym mhob agwedd ar fywyd Cymru.”
Meddai Steffan Rees Edwards ar ran Cymdeithas yr Iaith, y mudiad fydd cynnal ysgrifenyddiaeth y Grŵp:
“Rydym yn falch o weld ail-sefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg, gan ddod â gwahanol leisiau ynghyd i sicrhau mai’r Senedd hon sy’n gwyrdroi tueddiadau’r degawdau diwethaf.
“Rydym yn croesawu addewidion y Llywodraeth hon dros y Gymraeg. Felly hefyd y cynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi eisoes - fel y gwaith sydd wedi dechrau ar ddeddfu am Hawl i Dai Digonol, ac ar sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru. Ond, nawr yw’r amser i adeiladu ar y camau cychwynnol a bwrw ati o ddifrif i weithredu, ac i droi’r llanw o blaid y Gymraeg a chymunedau Cymraeg.
“Byddwn ni, fel mudiad annibynnol ac fel yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol, yn cadw llygad barcud ar weithredoedd yr holl Aelodau a phleidiau yn y Senedd dros yr iaith a phob mater sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn ystod y Seithfed Senedd. Byddwn ni’n barod i gefnogi camau sy’n cryfhau’r iaith a’n cymunedau, ond hefyd yn barod i herio pan fydd angen.”