Galw am ymchwiliad cyn i S4C llofnodi cytundeb gyda’r BBC
2026-01-27
Cartref > Newyddion > Galw am ymchwiliad cyn i S4C llofnodi cytundeb gyda’r BBC
Rydyn ni wedi galw am dryloywder ac ymchwiliad Seneddol cyn bod cytundeb partneriaeth newydd rhwng S4C a'r BBC yn cael ei therfynoli.
Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd y bydd cynnwys S4C yn fwy gweledol ar blatfform iPlayer y BBC.
Ein pryder, wrth i'r cytundeb partneriaeth rhwng S4C a'r BBC gael ei diweddaru, yw bod hyn yn gam arall at ddibyniaeth ar y BBC ac y gallai hyn fod yn arwyddo o'r hyn sydd yng ngweddill y cytundeb.
Mae llai o gynnwys gwreiddiol yn cael ei greu a’i ddangos ar S4C, a thalent newydd ddim yn cael ei ddatblygu felly. Dangosodd adroddiad diweddar bod ddau draean o gynnwys S4C yn ailddarllediadau.
Mewn llythyr at Weinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Diwylliant y Senedd mae'r Gymdeithas yn dweud nad yw'r cytundeb rhwng y ddau ddarlledwr wedi’i gymeradwyo’n derfynol eto a bod angen cynnal ymchwiliad cyn i hynny ddigwydd:
"[G]ofynnwn i chi felly wneud ymholiadau am ei effaith ar annibyniaeth a chynaladwyedd S4C fel darlledwr annibynnol. Credwn ymhellach y dylai fod oedi rhag gweithredu’r cytundeb nes eich bod wedi derbyn y sicrwydd ac atebion ynghylch y peryglon posibl o ran lluosogrwydd y tirlun darlledu yng Nghymru ynghyd ag annibyniaeth a chynaliadwyedd S4C...Heb weld manylion llawn y cytundeb arfaethedig, ni allwn fod yn sicr pa effeithiau eraill y gallai’r cytundeb arfaethedig rhwng S4C a’r BBC ei gael. Gofynnwn i chi wneud cais am oedi’r cytundeb nes eich bod wedi derbyn atebion llawn ynghylch yr holl gwestiynau sy’n cael eu codi trwy hynny."
Tra yn cydnabod bod angen i gynnwys Cymraeg fod yn haws cael mynediad ato, bydd hynny ar draul Clic, sydd eisoes dan anfantais i iPlayer. Dydy Clic ddim ar gael ar nifer o setiau teledu ac mae hysbysebion yn ystod rhaglenni byw, yn wahanol i'r un cynnwys ar iPlayer.
Roedd sesiwn tystiolaeth S4C gyda'r Pwyllgor Diwylliant wythnos diwethaf yn codi mwy o bryderon. Wrth ymateb i gwestiwn am gynnal system o roi cynnwys S4C ar Clic ac iPlayer nododd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C, bod hynny'n rheidrwydd dan y gyfraith, ond bod trafodaethau am hynny yn digwydd gyda Llywodraeth y DG.
Dywedodd Mirain Owen ar ran Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith:
"Mae angen tryloywder am y trafodaethau hyn rhwng S4C a’r BBC - dylai’r cyhoedd gael gweld y cytundeb drafft cyn iddo gael ei lofnodi. Ers i ni ddanfon ein llythyr yn galw am ymchwiliad mae sylwadau Geraint Evans a Delyth Evans (Cadeirydd S4C) a diffyg cwestiynau iddynt am natur y cytundeb partneriaeth rhwng y sianel a'r BBC yn codi cwestiynau. Oes rhywun heblaw S4C a'r BBC wedi gweld y cytundeb partneriaeth ac yn gwybod beth yw ei oblygiadau i S4C at y dyfodol?
“Mae’n hanfodol i ddyfodol S4C a darlledu Cymreig a Chymraeg fel gwasanaeth cyhoeddus fod Cymru yn cael grymoedd llawn dros redeg eu cyfryngau ei hun. Dyna pam ei bod yn bwysig mai Senedd Cymru sy’n cynnal yr ymchwiliad."
Mae'n llythyr at y Gweinidog Diwylliant i’w weld yma: https://docs.google.com/document/d/1WlbcGszdZ9YJUIdrGhk1jgL9bX5eEezYJap-47_koz0/edit?tab=t.0