Bygythiad i annibyniaeth ddigidol S4C

2026-09-15

Cartref > Newyddion > Bygythiad i annibyniaeth ddigidol S4C

Cais i ad-alw penaethiaid S4C i’r Senedd wedi i wybodaeth newydd gael ei datgelu

Mae trafodaethau cudd am dorri’r cynnwys y mae’r BBC yn darparu i S4C, ac sy'n awgrymu gwthio llwyfan digidol annibynnol y darlledwr Cymraeg i'r ymylon, wedi’u datgelu mewn dogfennau sydd newydd eu rhyddhau.

Mae’r e-byst a phapurau eraill a ryddhawyd i Gymdeithas yr Iaith yn datgelu trafodaethau am gynlluniau i ddisodli Clic gydag iPlayer y BBC fel prif lwyfan S4C ar gyfer fideo-ar-alw. 

Mewn cyflwyniad sy'n amlinellu dyfodol lle mae S4C Clic wedi'i israddio o ran blaenoriaeth, nodir y gallai teilsen S4C ar deledu clyfar fynd at dudalen S4C ar iPlayer yn hytrach nag i Clic: “Direct link from branded tile/app on Smart TV Guide to S4C iPlayer homepage”.

Datgela cyflwyniad arall o Chwefror 2025 gan swyddogion S4C fwriad i drosglwyddo swyddogaethau Clic i’r iPlayer. Buasai hynny yn golygu bod Clic fel llwyfan digidol annibynnol, uniaith Gymraeg y sianel yn colli statws. Datgana’r ddogfen: “As a minimum, prior to making iPlayer our primary BVoD [Broadcaster Video on Demand], we would require these additional features which S4C Clic currently provides”.

Meddai Carl Morris, Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol, Cymdeithas yr Iaith:

"Mae dyfodol hirdymor S4C yn dibynnu ar gael ei llwyfan digidol annibynnol ffyniannus ei hun. Mae’r wybodaeth newydd yma’n cryfhau ein pryderon bod S4C yn tanbrisio potensial Clic, ac yn paratoi’r ffordd i ddibynnu'n bennaf ar iPlayer. Yn yr oes sydd ohoni, lle mae gwylio ar-lein yn hanfodol i unrhyw ddarlledwr, byddai hynny'n tanseilio sylfeini S4C fel yr unig sianel deledu Cymraeg.

"Wrth reswm, rydyn ni’n falch y bydd cynnwys Cymraeg yn cael lle mwy amlwg ar draws dyfeisiau a llwyfannau, ond ni ddylai hynny fod ar draul annibyniaeth ddigidol a chynaliadwyedd S4C - na rhaglenni Cymraeg. Y gwirionedd yw y bydd y Gymraeg wastad yn cael ei boddi mewn môr o Saesneg ar yr iPlayer. Mae angen i S4C gydnabod faint o werth sydd i Clic fel llwyfan Cymraeg penodedig, nawr ac yn y dyfodol. Datblygu Clic fel y cartref digidol mwyaf blaenllaw ar gyfer teledu Cymraeg sydd ei angen."

Mae’r ddogfennaeth hefyd yn cadarnhau bod S4C wedi cytuno i ildio cyfran o’r 10 awr yr wythnos o gynnwys a gynhyrchir gan y BBC am ddim ar ei chyfer er mwyn cael mwy o amlygrwydd ar yr iPlayer. 

Dywed nodiadau cyfarfod Bwrdd S4C a gynhaliwyd ar 11eg Rhagfyr 2025: “Cyflwynodd GE y papur gan nodi bod Deddf Cyfryngau 2024 yn caniatau newid trefniadau presennol gyda’r BBC - sef symud o ddarparu 10 awr o gynnwys yr wythnos i drefniadau amgen. Cyflwynwyd papur i geisio cydsyniad y Bwrdd mewn egwyddor i gyfnewid oriau o gynnwys er mwyn sicrhau nodweddion gwell i S4C a’n cynnwys ar yr iPlayer”. 

Ym mis Ebrill, adroddwyd y byddai BBC Cymru yn rhoi’r gorau i ddarparu rhaglen y Clwb Rygbi ar gyfer S4C yn gyfnewid am well amlygrwydd ar yr iPlayer. Y llynedd hefyd, adroddwyd bod cwtogi i raglenni BBC Cymru ar gyfer S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r mudiad iaith yn awr yn galw am sicrwydd nad yw S4C wedi ildio rhagor o raglenni Cymraeg fel rhan o’r bargeinio ac am gael gwybod beth yw gwir gost y newidiadau, yn ariannol, ac mewn toriadau i gynnwys a ddarparwyd yn wreiddiol gan y BBC.

Meddai Carl Morris:

"Mae’r ffaith bod penaethiaid S4C yn fodlon hyd yn oed ystyried lleihau’r cynnwys mae’n eu derbyn, a hynny gan ddarlledwr cyhoeddus arall, er mwyn ‘prynu’ amlygrwydd ar lwyfan arall a ariennir gan y cyhoedd, yn gwneud y sefyllfa yn waeth byth. Hyn oll ar gyfer sefyllfa fydd yn gwneud S4C yn dlotach ac yn cyfaddawdu ei hannibyniaeth ddigidol yn y pendraw."

Pan gyhoeddwyd fod S4C wedi ffurfio’r cytundeb newydd gyda’r BBC i gynyddu amlygrwydd a chynnwys S4C ar yr iPlayer ym mis Ionawr eleni, ymddangosodd penaethiaid y Sianel gerbron Bwyllgor Diwylliant y Senedd ac fe’u holwyd am y datblygiadau. 

Yn wyneb yr wybodaeth newydd sydd wedi dod i law, mae’r mudiad wedi ysgrifennu at y Senedd yn gofyn iddynt ad-alw penaethiaid S4C i ateb cwestiynau pellach.

Meddai Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith eto:

"Mae’r wybodaeth newydd yma yn codi amheuon am dryloywder yr hyn a adroddodd S4C o flaen y Pwyllgor Diwylliant, ac yn codi nifer o gwestiynau pellach am darddiad, statws, a chost y cytundeb ac yn cryfhau ein hameuon fod annibyniaeth ddigidol S4C yn y fantol. Galwn ar y Pwyllgor Diwylliant i ad-alw tystion S4C yn ôl o flaen y Pwyllgor er mwyn ateb y cwestiynau hanfodol yma."

Ychwanegodd mai’r cam diweddaraf mewn ymgyrch hir dros greu system darlledu a chyfathrebu sy’n deilwng i bobl Cymru a’r Gymraeg yw hyn: 

"Mae’r ffordd mae S4C wedi symud yn gynyddol o dan ddylanwad y BBC dros y blynyddoedd yn wirioneddol bryderus. Rhaid troi’r llanw ar dranc y Sianel a newid tynged y Gymraeg yn yr oes ddigidol. Cytunwn fod angen diogelu a chynyddu’n sylweddol y buddsoddiad mewn cynnwys Cymraeg, ond rhaid hefyd yw cael rheolaeth ac atebolrwydd yng Nghymru dros ein cyfryngau ni’n hunain. Rydym felly’n galw ar Lywodraeth Lafur San Steffan i ddatganoli grymoedd darlledu a chyfathrebu i Gymru heb oedi. Yn ogystal, galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflymu’r gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu llawn i Gymru. Heb hyn, bydd y cyfryngau yng Nghymru yn cael eu boddi o dan benderfyniadau a blaenoriaethau Llundain.”

Pob newyddion