AS yn ceisio gorfodi’r Saesneg - mynnu ymddiheuriad

2026-09-17

Cartref > Newyddion > AS yn ceisio gorfodi’r Saesneg - mynnu ymddiheuriad

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am ymddiheuriad oddi wrth Aelod o’r Blaid Geidwadol yn y Senedd wedi iddynt geisio gorfodi Gweinidog i siarad yn Saesneg yn y Senedd. 

Wrth ofyn cwestiwn i’r Trefnydd, mi geisiodd Janet Finch-Saunders gael Heledd Fychan i ateb ei chwestiwn yn Saesneg gan ddweud “ei fod wedi’i ofyn yn Saesneg.”

Ymatebodd Heledd Fychan gan ddweud, “Ie, ac mae gennym ni ddwy iaith yma. Felly, mi ydw i’n mynd i ddefnyddio’r Gymraeg.”

Gan fod y ffrwd fyw o’r trafodion yn y Senedd yn dangos bod y system gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg wedi gweithio’n berffaith yn ystod y cyfarfod, mae’r ymgyrchwyr yn honni bod yr Aelod Ceidwadol wedi ymddwyn yn ‘wrth-Gymraeg’. 

Mae’r mudiad iaith wedi ysgrifennu at Janet Finch-Saunders AS gan fynnu ymddiheuriad oddi wrthi am “danseilio hawliau i’r Gymraeg”. 

Meddai llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith, Siân Howys:

“Dangosodd Janet Finch-Saunders agwedd wrth-Gymraeg warthus yn y Siambr ddoe. Diolch i Heledd Fychan am ddal ei thir a pharhau i ateb yn Gymraeg. Ond ni ddylai fod rhaid iddi wneud safiad o’r fath - mae ymddygiad Janet Finch Saunders yn gwbl annerbyniol. Mae angen i’r Llywydd gael gair gyda hi a dylai Comisiwn y Senedd ei haddysgu am bwysigrwydd parchu’r iaith. Dylai hi ymddiheuro i Heledd Fychan, y ganran helaeth o’i hetholwyr sy’n cefnogi defnydd o’r Gymraeg, ac i’r gweddill ohonom sy’n dymuno byw ein bywydau yn Gymraeg ac yn wynebu’r fath agwedd a rhwystrau yn llawer rhy aml.

“Dyma enghraifft arall o’r pwysau sydd ar bobl i siarad Saesneg ar lawr gwlad. Mewn gwlad lle does ganddon ni ddim llawer o hawliau iaith, un o’r llefydd prin lle mae hawl wedi’i sefydlu i ddefnyddio’r Gymraeg yw Siambr y Senedd. Ac eto, mae Janet Finch-Saunders yn mynnu tanseilio’r hawl yna. 

“Galwn ar bob Aelod o’r Seithfed Senedd i ymrwymo i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn nhrafodion y Senedd, wrth gyflogi staff ac wrth wasanaethu etholwyr. Mae 36 allan o’r 96 eisoes wedi ymrwymo, ond nawr yw’r amser i droi’r llanw o blaid y Gymraeg yng ngweinyddiaeth y Senedd.”

Mae’r ymgyrchwyr hefyd wedi mynegi eu pryderon difrifol wrth Lywydd y Senedd, gan honni ei bod yn amlygu diffygion difrifol ym mholisi iaith Comisiwn y Senedd. 

Ychwanegodd Siân Howys:

“Mae angen dod â Chomisiwn y Senedd, y Bwrdd Taliadau Seneddol a’r Aelodau eu hunain, o dan ddyletswyddau safonau’r Gymraeg, fel bod fframwaith cyfreithiol cadarn yn ei le. Galwn hefyd ar holl Aelodau’r Senedd i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu gwaith gan ddechrau heddiw.” 

Pob newyddion