Darlledu: Ddoe, Heddiw & Yfory
Cartref > Digwyddiadau > Darlledu: Ddoe, Heddiw & Yfory
Darlledu: Ddoe, Heddiw ac Yfory
2.45, dydd Sadwrn, 17 Hydref
Canolfan Arad Goch, Aberystwyth
Hanner can mlynedd yn ôl, roedd brwydr dros sefydlu sianel deledu Gymraeg fel cyfrwng ar y pryd. Roedd yn rhaid mynd â'r frwydr i Lundain, a dyna pam y dringodd rhai ymgyrchwyr iaith mast Crystal Palace.
Heddiw, llwyfannau digidol yw'r cyfrwng diweddaraf ac mae angen sicrhau lle'r Gymraeg arnynt. Ond rydyn ni'n dal i orfod mynd at Lywodraeth San Steffan i drafod materion darlledu a chyfathrebu. Mae angen newid hyn.
Roedd clawr y Tafod 50 mlynedd yn ôl yn galw am Awdurdod Darlledu i Gymru; mae'n hen bryd i bethau newid. Dewch felly i glywed gan Aled Siôn ac Angharad Tomos (dau a fu'n dringo'r mast) am ymgyrch ddoe, ac yna bydd panel yn trafod ble 'dyn ni arni heddiw a beth 'dyn ni eisiau erbyn yfory.
Croeso cynnes i bawb.
Noder: mae'r digwyddiad yn dilyn ein Cyfarfod Cyffredinol.

