Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn
Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn
Cyfarfod o Ranbarth Gwynedd-Môn
7 o'r gloch, nos Fercher, 23 Medi
Palas Print, Caernarfon (Stryd y Plas, LL55 1RR)
Cyfarfod blynyddol y rhanbarth fydd y cyfarfod hwn. Mae croeso i aelodau hen a newydd i gyfarfod rhanbarth Gwynedd-Môn. Dyma gyfle i drafod materion sy'n effeithio ar y rhanbarth a chyfle hefyd i glywed am ymgyrchoedd cenedlaethol.
Yn dilyn y cyfarfod, bydd cyfarfod cyhoeddus, lle cynhelir sesiwn a sgwrs ‘Cofio’r Beasleys - Brwydro Dros yr Iaith’, yng nghwmni Delyth Beasley ac Angharad Tomos.
Cysylltwch am ddolen neu wybodaeth bellach.