Asesiad Cyngor o effaith cau ysgol yn "anghredadwy"
2026-01-30
Cartref > Newyddion > Asesiad Cyngor o effaith cau ysgol yn "anghredadwy"
Mae Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi datgan fod asesiad Cyngor Sir Caerfyrddin o’r effaith ar y Gymraeg o gau Ysgol y Fro, Llangyndeyrn yn anghredadwy.
Casgliad yr Asesiad Effaith, sy’n atodiad i ddogfen ymgynghorol sy’n sail i gynnig y cyngor i gau’r ysgol, yw bod:
“Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhagweld effaith gadarnhaol ar y cyfan ar y Gymraeg o ganlyniad i'r cynnig hwn i gau Ysgol y Fro a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol y Dderwen o 31 Rhagfyr 2026”.
Yn ôl dogfen y Cyngor, rhagwelir y bydd 27 o ddisgyblion yn yr ysgol yn Ionawr 2029, a’r bwriad yw eu bod yn eu trosglwyddo i Ysgol Y Dderwen yn nhre Caerfyrddin, sydd bro 7 milltir i ffwrdd, er bod yr un ddogfen yn dangos mai ond 3 lle gwag sydd yn yr ysgol, ac nad oes hawl gan y Cyngor fynnu bod rhieni’n danfon eu plant at yr ysgol Gymraeg honno yn lle ysgolion Saesneg y dref. Mae’r ddogfen hefyd yn cyfaddef y gall cau Ysgol y Fro olygu diwedd y Cylch Meithrin Cymraeg sydd yn yr un adeilad.
O ran dylanwad Ysgol y Fro yn y gymuned, dywed yr adroddiad:
“Mae'r ysgol yn mynd ati i hyrwyddo'r Gymraeg trwy ddigwyddiadau'r ysgol a gweithgareddau anffurfiol. Mae plant yn cael eu hannog i rannu a defnyddio'r Gymraeg gyda'u teuluoedd gartref, gan helpu rhieni i ddysgu ochr yn ochr â nhw mewn ffordd naturiol a diddorol.”
Mewn ymateb, dywedodd Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin, Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’n gwbl anghredadwy fod y Cyngor yn dod i gasgliad y bydd tynnu ysgol Gymraeg allan o gymuned sy’n wynebu heriau ieithyddol, peryglu dyfodol y cylch meithrin Cymraeg, a risgio fod llawer o ddisgyblion yn symud i addysg Saesneg yn cael effaith ‘cadarnhaol’ ar yr iaith Gymraeg.”
“Dengys yr adroddiad fod dros 60 o ddisgyblion eraill hefyd yn nalgylch Ysgol Y Fro nad sydd yn yr ysgol leol, weithiau oherwydd ymrwymiadau gwaith yn y dref neu amgylchiadau teuluol ond yn bennaf oherwydd yr ansicrwydd ers blynyddoedd am ddyfodol yr ysgol a’r ffaith na chaiff yr ysgol bentre dderbyn plant yn 3 oed fel ysgolion y dref. Mae annhegwch sylfaenol yn y modd y caiff ysgolion gwledig eu trin, ond mae’n anghredadwy fod y Cyngor yn datgan fod cau ysgol Gymraeg arall a thanseilio’r gymuned yn debyg o gael effaith gadarnhaol ar yr iaith”.
Mae’r ymgynghoriad ar gynigion i gau Ysgol Y Fro ac Ysgol Meidrim yn rhedeg tan 2 Mawrth ac mae dogfen ymgynghoriad y Cyngor ar gael yma: https://www.sirgar.llyw.cymru/media/acxi4vre/ysgol-y-fro-dogfen-ymgynghori.pdf